Skip to main content

Clic Clac

Yn brin iawn dwi'n ysgrifennu barddoniaeth yn Gymraeg, dim fel mod i ddim am ddefnyddio iaith y nefoedd at y diben hwn, ond fel arfer dwi'n ysgrifennu yn yr iaith sy'n dod ata i yn y funud o ysbrydoliaeth. A dyna ddigwyddodd efo'r gerdd hon a ysgrifennes i yn dilyn digwyddiad ym Malchder Cymru y llynedd. Dwi bob amser yn ffeindio ysgrifennu fel hyn yn haws pan fo'n seiliedig ar y byd go iawn...  Nyns yw pur venowgh y skrifav bardhonieth yn Kembrek, nyns yw nag eus hwans dhymm devnydhya'n yeth yn ow skrifa, mes dell yw usys y skrifav y'n yeth a dheu dhymm y'n pols awen. Henn a hwarva gen an bardhonek ma a skrifis wosa hwarvos yn Gool Gooth Kembra warlena. Yth yw pub prys esya, y'm brys vy, dhe skrifa a-dro dhe draow an par ma pan vons selyes war an bys gwir... 


Clic Clac


Pwy wyt ti

Sy'n cerdded tuag ataf

Mewn gwisg dwt a du

A sodlau fyny i dy ben-gliniau?


Mae ein llygaid yn hanner-gwrdd

Ymhlith gwichian

Esgidiau plastig ar deils glan

A dychlamu baneri amryliw uwchben 


Dy wyneb gwelw

Dy lygaid gweigion

Yn edrych o'u huchelder

Ar y llawr, arnaf finnau


Mae'r ddinas yn siarad

Amdanom ni ein dau

Yn fyrlymus ac yn awyddus

Popeth ar unwaith yn llenwi ein clyw


Ac mae amser yn dal ei anadl

Wrth i ni basio'n anhysbys

Yn teimlo'r gwrthdrawiad trwm

O dan bwysau dy ragfarn



Klyck Klack


Piw os ta

A gerdh war-tu ha vy

Yn giwsk kempen ha du

Ha seudhelyow yn-bann dhe’th dewlin?


Agan lagasow a hanter-vet

Yn-misk gwighal

Eskisyow plastek war brilegh glan

Ha terneyja baneryow lies liw a-ugh 


Dha vejeth wannliwek

Dha dhewlagas gwag

Ow mires a’ga ughelder

Orth an leur, orthiv vyvy


Yma’n cita ow klappya

A-dro dhyn ni an dhew

Yn herus hag yn hwansek

Pubtra war-not a leunha agan klew


Ha termyn a syns y anal

Ha ni ow tremena yn tihanow

Owth omglowes an kesskwat kales 

Yn-dann bosow dha ragvreus

Comments