Skip to main content

Posts

Showing posts from June, 2023

Clic Clac

Yn brin iawn dwi'n ysgrifennu barddoniaeth yn Gymraeg, dim fel mod i ddim am ddefnyddio iaith y nefoedd at y diben hwn, ond fel arfer dwi'n ysgrifennu yn yr iaith sy'n dod ata i yn y funud o ysbrydoliaeth. A dyna ddigwyddodd efo'r gerdd hon a ysgrifennes i yn dilyn digwyddiad ym Malchder Cymru y llynedd. Dwi bob amser yn ffeindio ysgrifennu fel hyn yn haws pan fo'n seiliedig ar y byd go iawn...   Nyns yw pur venowgh y skrifav bardhonieth yn Kembrek, nyns yw nag eus hwans dhymm devnydhya'n yeth yn ow skrifa, mes dell yw usys y skrifav y'n yeth a dheu dhymm y'n pols awen. Henn a hwarva gen an bardhonek ma a skrifis wosa hwarvos yn Gool Gooth Kembra warlena. Yth yw pub prys esya, y'm brys vy, dhe skrifa a-dro dhe draow an par ma pan vons selyes war an bys gwir...  Clic Clac Pwy wyt ti Sy'n cerdded tuag ataf Mewn gwisg dwt a du A sodlau fyny i dy ben-gliniau? Mae ein llygaid yn hanner-gwrdd Ymhlith gwichian Esgidiau plastig ar deils glan A dychlamu b