Skip to main content

Trenau a Chymraeg!

Helô pawb!

Dwi wedi sylweddoli bod 'na ddim Cymraeg ar fy mlig newydd (wel, hen) hon! Mae'r amser wedi dod i newid hwnna!

Dwi'n licio'r fideo hon am Reilffordd Ucheldir Cymru o 1986, mae o'n ddiddorol iawn dim ond achos mae 'na drenau ond am lot mwy.

Edrychwch...



Wnawn ni ddechrau efo'r trenau achos mae pawb yn gwybod mod i wrth fy modd efo nhw!

Mi es i i'r Reilffordd Ucheldir Cymru am y dro cyntaf yn 2006 efo fy nhad ar wyliau (mi aethon ni ar Reilffordd Ffestiniog a Rheilffordd yr Wyddfa hefyd) ond dwi'n cofio'r R.U.C (neu the Welsh Highland Heritage Railway fel ei enw Saesneg heddiw) mwy na'r eraill achos un peth. Dôn i ddim yn gwybod bod hi yno!

Rôn i wedi clywed am y Reilffordd Eryri (oedd yn rhedeg o Gaernarfon i Ryd Ddu yn 2006) ond roedd o'n sioc bach pan aeth fy nhad a fi i Borthmadog i ffeindio rheilffordd arall! Wel, wrth gwrs roedd rhaid i ni fynd i weld beth oedd yn digwydd!

Mi ffeindion ni reilffordd fach iawn (mewn gymhariaeth efo'r Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri) sy'n rhedeg am un milltir o Ffordd Tremadog ym Mhorthmadog i'r orsaf fach Cyffordd Pen-y-Mount, lle mae'r reilffordd yn cysylltu efo'r Reilffordd Eryri. Mae 'na amgueddfa fendigedig am y rheilffyrdd bach gogledd Cymru, rheilffordd fach (lai), caffi a llawer o injans disel a stêm eraill.

Yng nghefyn yr amgueddfa, mi welon ni injan gwyrdd enwir Karen, doedd yr injan ddim wedi rhedeg ers mlynyddoedd achos problemau efo'i boilwr (dwi'n meddwl). Allan ar y lein oedd yr injan Gelert ac yr injan yn y gweithdy oedd Russell; os dwi'n cofio'n gywir, roedd o'n y gala Russell 100, not out.

Pan dan ni'n edrych ar y fideo, dan ni'n medru gweld yr injan Karen yn rhedeg (saith blwyddyn cyn i mi gael fy ngeni) ar y lein noeth; heb amgueddfa, heb caffi, heb reilffordd lai, heb y Reilffordd Eryri, noeth yn wir! Yn y sied, dach chi'n medru gweld yr injans Russell a Gelert yn cael eu atgyweirio.

Dwi'n meddwl bod o'n neis i weld, sut roedd lleoedd yn y gorffenol ac i weld injans yn rhedeg sy ddim yn rhedeg yn y dyddiau hyn.

O fy nhrip diwetha i'r Reilffordd Ucheldir Cymru yn 2011; mi es i efo fy mam a thad am fy anrheg penblwydd 18fed, i yrru trên stêm. Dwi wrth fy modd efo'r llun hon achos mae o'n crisialu ysbryd y rheilffyrdd stêm modern; dach chi'n medru gweld llonder y bachgen sy'n rhedeg at yr hen injan sy'n pwffio i mewn i'r orsaf. Bendigedig.


Iawn, yn ôl i'r fideo.

Dwi ddim yn gwybod lot am yr 80au, ond yn ôl fi (a'r ystrydebau y dwi'n gwybod) bod y fideo hon yn y fideo fwya 80au y byd! (wel, bron) y gerddoriaeth i fod yn bendonol. Jyst gwrandwch arni a dudwch i mi bod hi ddim!

Y peth arall am y fideo ydy'r iaith.

I'r amser roedd S4C yn ifanc iawn (pedair flwyddyn os dach chi'n credu wicipedia) ac i weld sioe o'r amser hon am rywbeth mor diflas (i lot o bobl [dim fi])... Mae'n neis i wybod bod S4C yn trio gwneud rhaglenni am y diwylliant ac hanes Cymru a dim jyst i wenud comedïau am y cynilleidfaoedd clamp - mi fasai fo'n fendigedig i fedru gweld pob rhageln o'r gyfres. Efallai wna i ysgrifennu i S4C amdani...

O wel, gobeithio bod chi wedi mwynhau'r fideo a fy sylwebath i hefyd.

Hwyl!

Am fwy o wybodaeth am y Reilffordd Ucheldir Cymru (ym Mhorthmadog), ymwelwch â'r gwefan hon:

Comments

Popular posts from this blog

Ple'ma'n arghans?

Predhek. (English below) Ny wrav vy deskrifa oll an drolla 'ma lemmyn awos ow bos pur sur y hwodhowgh hwi an faktys seulabrys, mes:  Governans Pow Sows re hedhas pub skoodhyans arghansek rag an yeth Kernowek wosa  13 bledhen.   An dewis 'ma a dheuth dy' Yow seythen 'ma wosa Konsel Kernow dhe dhannvon y ombrofyans bledhynnyek rag an arghasans a   £150,000 a-varr y'n vledhen  . An yeth Kernowek re beu gwithys gans an Chartour Europek rag Yethow Ranndiryel po Bian a-dhia 2003, pan skoodhyans arghansek an governans a dhalathas. Hwi a yll sina petisyon erbyn an dewis 'ma omma: https://petition.parliament.uk/petitions/128474 Mes an hwarvos 'ma re wrug dhymm tybi a-dro dhe ble ha fatel yma'n governans Breten ow kwastya arghans ha pygemmys mona yw hemma? Awos ny gyv an yeth Kernowek saw   £150,000 an vledhen, po dhewgh ha dhymm, pris a nessa chi y'n Kernow dhe lower a bolitegoryon... Wel, nyns esa res dhymm hwilas yn lower.  Herwydh an Daily...

Etymology/Etymologieth: Why are we still underground!?

Post diwyethek, Sowsnek a-woles/Bilingual post, English below. Post diwyethek, Sowsnek a-woles/Bilingual post, English Below . _______ Mar hwi re redyas an dhew bost etymologieth diwettha, hwi a wor y karav geryow balweyth dhe'n pols ma, ha nyns yw an post ma dyffrans dhedha, drog yw genev - mar ny redsowgh an postow diwettha, mirewgh war an dhew gevren ma:  Post Onan Post Dew Ytho, hedhyw y fynnav kowsel yn-kever geryow Kernowek re beu asvebys dhe'n Sowsnek meur ras dhe'n diwysyans balweyth. Ny yllis vy trovya etymologieth oll an re ma, dell mar kyllowgh offra nebes gweres dhe leunhe'n bolghow, gesewgh kampol a-woles. Hwel Jenkin dhe Venyon (Awtour). Lemmyn, gwryllyn dalleth gans ger komparek dhe valweyth yn Kernow ha Dewnens Soth, hwel . Nyns yw gwreydh an ger ma pur gler, mes yma nebes keslinegow Kembrek dhodho:  chwil  (hwilas),  chwêl / chwŷl  (hwel, avel yn dom hwel po hwel dro). An geryow Proto-Keltek usi ogas dhe'n geryow ma yw...