Skip to main content

Yr ystafell sbâr

My a skrifas hemma rag an "eisteddfod" warlinen Say Something in Welsh - ha my a gwaynyes gandho! Nyns eus vershyon Kernowek hwath, dell res yw dhewgh gortos rag hemma.

YR YSTAFELL SBÂR

Yn blant, chwaraeodd fy mrawd a fi 'cuddio ac ymofyn' yn ein tŷ; wnaethon ni guddio ym mhob man posib.

Ond pob blwyddyn, ym mis Rhagfyr, doedden ni ddim yn medru chwarae yn yr 'stafell sbâr. Dywedodd ein mam: “Peidiwch â chwarae yno, mae 'na ysbryd yn y cwpwrdd dillad a bydd yn eich dychryn, mae 'na ddyn bôgi o dan y gwely a bydd o'n eich cipio, os dach chi'n mynd i fewn, a mae 'na bry cop ar y wal a bydd hi'n eich bwyta, os dach chi'n cerdded i mewn i'w we.”

Gofynnodd fy mrawd i: “Ond, o le maen nhw wedi dŵad?”

“Wel,” dywedodd mam, “Aeth yr ysbryd i mewn i'r cwpwrdd dillad achos mae hi'n wyntog allan a bydd o'n chwythu i ffwrdd tasai fo'n aros allan, aeth y dyn bôgi o dan y gwely achos mae hi'n oer allan a tasai fo'n fferru yn y pwll ac aeth y bry cop i fewn i gadw'n gynnes dros yr gaeaf.”

“Felly, sut gawn ni fudo yr ymwthwyr?” gofynnais i.

“Bydd rhaid i ni aros am y dyn sy'n medru mudo ohonyn,” dywedodd mam.

“A phwy ydy fo!” gofynnodd fy mrawd a finnau.

“Neb llai na Siôn Corn yn medru mudo ymwthwyr fel ein!” gwenodd Mam.

Jyst wedyn, mi ddôth Tad efo bagiau mawr ac aeth i fewn yr 'stafell sbâr.

“Na thad, PAID!” dywedon ni.

“Mae'n iawn,” dywedodd y fam yn dawel, “mae gynno fo fwyd ar gyfer ein gwesteion.”

Roedden ni'n hapusach ar ôl hwnnw.

Felly, aeth Tad i mewn i'r 'stafell sbâr efo bwyd am y gwesteion bob dydd, tan daeth y 24fed Rhagfyr.

Roedd fy mrawd a finnau'n llawn cyffro aros am Siôn Corn i ddŵad i'n hachub. Ac, wrth hanner nos, clywon ni gamre ar y to ac hŵsh o'r grât yn yr 'stafell sbâr. Arhoson ni allan yr 'stafell a gwrandon am awgrym am be' oedd yn digwydd yn ein 'stafell sbâr.

Eiliadau diweddarach, roedd 'na fanllef: “Allan rŵan! Ysgrubliaid yr 'stafell 'ma, GADAWCH!”

Agorodd y drws yn sydyn, a rhedodd ysbryd, dyn bôgi a bry cop allan ar draws yr 'stafell ac allan o'r drws ffrynt. Ar ôl i'r gwesteion adael, wnaeth dyn tew allddod o'r tywyll.

“Helô bechgyn, dwi wedi mudo'r ysgrubliaid o'ch 'stafell sbâr chi rŵan,” dywedodd Siôn Corn.

“Diolch Syr,” atebon ni, “fyddwch chi eisiau ymuno â ni am ginio yfory?”

“Ia, oes, diolch. Hwyl fawr! A than yfory!”

Y dydd nesa, daeth Siôn Corn yn ôl am ginio efo ni. Ond, cyn i ni fedru dechrau bwyta, edrychon ni wrth yr ardd. Medron ni gweld yr ysbryd yn chwythu yn y gwynt, y dyn bôgi yn fferru yn y pwll, a'r bry cop yn crynu wrth y sied.

Edrychodd fy mrawd a finnau ar mam, tad a Siôn Corn a gofynnon ni, “Plîs pawb, gawn ni ofyn iddyn i ymuno â ni? Ellai maen nhw'n medru aros mewn ein 'stafell sbâr ni hefyd? ”

“Wel,” edrychodd mam a thad ar eu hunan, “O, iawn! Byddwn ni'n eu gofyn rŵan.”

A, bwytodd yr ysbryd, dyn bôgi a phry cop efo ni a Siôn Corn ac arhoson nhw yn ein 'stafell sbâr tan roedd y gaeaf wedi gorffen.

Comments

Popular posts from this blog

MiSkriBa 2024 - 11 / 04 - Dy' Yow

Rag  #MiSkriBa  11 yma res skrifa bardhonek unlinen. For   #NaPoWriMo  11 we have to write a monostich, a one line poem. Dy' Yow An petal finek re godhas a'n lester flourys, ow koska yn hwell agesov. Thursday The final petal has fallen from the vase, sleeping better than I.

MiSkriBa 2024 - 14 / 04 - Luck

 Rag #MiSkriBa 14, res yw skrifa bardhonek a dheg linen po moy a dhalleth gen an keth ger. Awen an darn ma yw an levow bian a er y'm penn ha my owth assaya bos person gwir... For #NaPoWriMo 14, we have been asked to write a poem of ten or more lines beginning with the same word. The inspiration for this poem are the little voices that babble in my head as I'm trying to be a real human... Luck Mar kalsen vy, yth evsen vy ow 'nafas yr heb y ankevi'n yeyn ha'y drefya dhe'n new. Mar kalsen vy, y fynnsen gorra'n golgh yn-mes kyns an glaw dhe dhos ha dampnya'n hav. Mar kalsen vy, y hworfennsen oll a'n ober chi dhe hebaskhe ow brys a bub preder. Mar kalsen vy, y kavsen hansel yagh dhe nerthe ow horf gen dader bara glas koth. Mar kalsen vy, y hylsen ponya pub dydh dhe-ves a dhelitys bewnans ha mos ha bos Adnois gay. Mar halsen vy, yth omglowsen yn ta despit dhe'n reden klappya a grav orth ow dewlin. Mar kalsen vy, y kowssen yn tiskwith dhe stoppya ow t...

An Jydh Finek

Ottomma treylyans a romans Kembrek Y Dydd Olaf gans Owain Owain, esa keffrys awen rag plassen 2014 a'n keth hanow  gans Gwenno . Deskrifans:   An drolla a hol den henwys Mark dre rannow a'y dhydhlyvrow ha lytherow a recevas ganso dres an 20ves kansvledhen ha Konsel an Brederedh, governans kepar ha broder bras, ow mos ha bos moy powerus. An konsel ma a ynni tus dhe gowsel aga yeth fug dre dhevnydhya rayys studhhe a vynn Mark skapya anedha ha gweres orth diwedha'n termyn distopek ma a dheu. Kedhlow Pella: Y rer an romans ma heb kost war furv e-Lyver. Y hwodhor gras dhe deylu Owain Owain a asa y dreylya ha'y dhyllo yn Kernowek. Y hyllir redya'n romans ma y'n restren dackyes a-is, po y iskarga avel PDF po EPUB dh'y redya war redyor e-lyvrow. Ynwedh, y komprehendir kevren dhe'n romans Kembrek derowel. Iskarga: An Jydh Finek - PDF An Jydh Finek - ePub Y Dydd Olaf